top of page
Diogelu mannau cymunedol

Mae awdurdodau lleol wedi cau ugeiniau o fannau cymunedol yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil penderfyniadau cywilyddus: o lyfrgelloedd i neuaddau glowyr, ac o ganolfannau hamdden i fannau gwerthfawr fel Llancaiach Fawr.
Byddwn yn gwthio am Ddeddf Cymunedau yn y Senedd, gan gynnwys newidiadau yn yr Hawl Cymunedol i Brynu a fyddai’n caniatáu i grwpiau lleol a chynghorau cymuned gymryd perchnogaeth yn haws o fannau cymunedol sydd mewn perygl o gau. Rhaid inni wneud popeth sy’n bosibl i ddiogelu’r llefydd annwyl hyn.
bottom of page