top of page

Delyth

Jewell

dros Blaid Cymru

Pleidleisiwch Delyth Jewell
fel ymgeisydd #1 Plaid Cymru
ar gyfer Blaenau Gwent Caerffili Rhymni

Delyth Jewell MS

Dros y chwe mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn anrhydedd i mi gynrychioli’r gymuned lle cefais fy ngeni a’m magu yn ein Senedd. Rwy’n gofyn i aelodau roi eu ffydd ynof i barhau â’r gwaith rwyf wedi’i ddechrau, ac i f’ethol yn ymgeisydd Rhif 1 ar gyfer yr etholaeth hon.

My vision

Fy ngweledigaeth

Rwy’n gofyn am eich cefnogaeth fel eich ymgeisydd Rhif 1 ar gyfer Blaenau Gwent Caerffili Rhymni, er mwyn caniatáu i mi barhau â’r gwaith rwyf wedi’i ddechrau yn y rôl hon. Bydd y sedd hon yn ganolog i lwyddiant Plaid Cymru yn yr etholiad nesaf. Fel eich ymgeisydd Rhif 1 ar gyfer y sedd hon, byddwn yn clustnodi fy holl egni, syniadau a brwdfrydedd i sicrhau ein bod yn ethol o leiaf 2 Aelod o’r Senedd o’r ardal hon i gynrychioli ein cymunedau yn ein senedd genedlaethol. Ac wrth gwrs, bydd ennill y 2 sedd hynny ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni yn hanfodol i sicrhau bod Plaid Cymru yn arwain y llywodraeth ar ôl yr etholiad nesaf.


Mae hon yn ardal sydd wedi bod yn ganolog i fy mywyd. Fel cynifer ohonoch, rwyf mor falch fy mod yn hanu o gymoedd de Cymru: mae’n ardal sydd â hanes pwerus o gymunedau’n dod at ei gilydd yn wyneb anghyfiawnderau chwerw. Mae brwydrau heddiw yn mynnu’r un cryfder a phenderfynoldeb oherwydd rwyf am i’n cymoedd wynebu dyfodol sydd yr un mor ysbrydoledig â’n gorffennol. Mae arnom ddyled i'n cymunedau heddiw ac i frwydro dros ein cymoedd yn y dyfodol.
 

O frwydro dros bensiynau cyn-lowyr, i ymgyrchu yn erbyn cau llyfrgelloedd a Llancaiach Fawr, rwyf wedi hyrwyddo achosion ein cymunedau dros y chwe mlynedd diwethaf. Mae dod o gymoedd de Cymru yn hanfodol i fy hunaniaeth. Rwy’n ymfalchïo’n fawr yn y ffaith hwn, ac rwy’n credu’n gryf y gall y ardal hon fod yn bwerdy o arloesi a diwydiant unwaith eto, pan fydd Cymru yn cymryd ei lle haeddiannol ar lwyfan y byd. Os ydych chi'n rhannu fy ngweledigaeth ar gyfer Cymru decach, fwy llewyrchus gyda'n cymunedau yn ganolog iddi, yna ymunwch â mi yn yr ymgyrch hon a phleidleisiwch drosof fel eich dewis #1 ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni.

Fy Mlaenoriaethau

A&E ar gyfer ein cymoedd
Diogelu mannau cymunedol
nick-russill-Txhc-wPElbk-unsplash_edited.jpg
Tirweddau gobaith
benjamin-jopen-p2GuLUu79Rg-unsplash_edited.jpg
Paneli solar ar adeiladau cyhoeddus
System gynllunio ar gyfer y bobl
Trafnidiaeth gyhoeddus sy’n ddiogel i bawb
Annibyniaeth yw ein dyfodol
Our priorities
Endorsements
LSR_edited.jpg

Liz Saville-Roberts AS

Official_portrait_of_Ben_Lake_MP_crop_2_edited.jpg

Ben Lake AS

Cefnogaeth

dafydd iwan.jpeg

Dafydd Iwan

elfyn_edited_edited.jpg

Elfyn Llwyd

WhatsApp Image 2025-05-04 at 19.10.12.jpeg

Gail Davies

Aelod lleol ym Mlaenau Gwent

colin mann_edited.jpg

Cyng. Colin Mann

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

WhatsApp Image 2025-05-04 at 19.07_edited.png

Gwion  Rhisiart

Aelond lleol a Chyn-Aelod Senedd Ieuenctid Cymru

WhatsApp Image 2025-05-04 at 19.06_edited.jpg

Maisie Powell ASI

Aelod lleol ac Aelod Senedd Ieuenctid Cymru

WhatsApp Image 2025-05-04 at 19.09_edited.jpg

Mike Edwards

Aelod lleol

IMG_3232_edited.jpg

Mike Edwards

Aelod lleol

About me

Amdanaf i

Rwyf mor falch fy mod i’n dod o Gwm Rhymni. Cefais fy ngeni yn Ysbyty’r Glowyr, Caerffili, ces i fy magu yn Ystrad Mynach, ac es i i ysgol ym Margoed (gan fynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhymni). Ar ôl gadael yr ysgol, astudiais ym Mhrifysgol Rhydychen, cyn mynd i weithio fel ymchwilydd ac ysgrifennwr areithiau i grŵp Plaid Cymru yn San Steffan. Yn 2014, cefais fy enwi’n Ymchwilydd y Flwyddyn yn San Steffan am fy ngwaith ar ymgyrchoedd yn ymwneud â stelcian a chamdrin domestig, a helpodd i baratoi’r ffordd ar gyfer deddfwriaeth newydd yn y meysydd hynny. Yn 2015, symudais yn ôl i Gymru, gan weithio i Gyngor ar Bopeth yn gyntaf, ac yn ddiweddarach Action Aid.


Yn 2019, des i’n Aelod o’r Senedd, yn dilyn marwolaeth fy ffrind, Steffan Lewis. Drwy gydol fy amser yn y rôl hon, rwyf wedi ymdrechu mewn rhyw ffordd i “rannu” fy sedd gyda Steffan, ac i barhau â’r ymgyrchoedd a’r gwaith a gychwynnodd.

WhatsApp Image 2025-03-24 at 19.50.27.jpeg
  • bluesky_logo
  • Instagram
  • Facebook
  • X
  • TikTok
Contact

Cysylltu

Cysylltwch â ni
Diolch am gysylltu!
53236241973_ad129e2fad_k.jpg

Credit: Senedd Cymru

bottom of page