Trafnidiaeth gyhoeddus sy’n ddiogel i bawb

Mae gormod o'n harosfannau bysiau a'n gorsafoedd trên yn anhygyrch: naill ai oherwydd llwybrau cerdded sydd wedi'u goleuo'n wael neu oherwydd eu bod yn eithrio pobl anabl o'u dyluniad.
Rydw i wedi bod yn ymgyrchu ers rhai blynyddoedd am newidiadau i sut mae arosfannau, gorsafoedd a gwasanaethau yn cael eu cynllunio i wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gallu defnyddio’r gofodau rydyn ni i fod i’w rhannu.
Rwyf eisoes wedi perswadio Trafnidiaeth Cymru i newid y ffordd y maent yn ymdrin â gwasanaethau sydd wedi’u canslo yn ystod misoedd y gaeaf, fel nad ydynt yn gadael pobl yn sownd mewn gorsafoedd anghysbell ar ôl iddi dywyllu, ac rwyf wedi cael cynnig deddfwriaethol wedi’i basio yn y Senedd yn tynnu sylw at yr angen am newidiadau pellach i’r ffordd y caiff y mannau hyn eu dylunio.
Bydd y mater hwn yn aros yn uchel ar fy agenda ar gyfer tymor nesaf y Senedd.