top of page
A&E ar gyfer ein cymoedd

Mae cannoli gormod o wasanaethau ysbyty wedi gadael llawer o bobl yn ein cymunedau’n agored i niwed, ac mae angen adran damweiniau ac achosion brys newydd ar ein cymoedd, yn union fel yr addawyd i ni pan gaewyd Ysbyty Glowyr Caerffili.
Rwyf wedi ymgyrchu ers tro i Ysbyty Ystrad Fawr gael ei wneud yn ysbyty cyffredinol, sef yr hyn a fwriadwyd yn wreiddiol, ac mae angen cysylltiadau trafnidiaeth gwell i gleifion ar draws Blaenau Gwent a Chwm Rhymni i allu defnyddio gwasanaethau ysbyty.
Ar adeg pan fo amseroedd aros ambiwlansys ar eu huchaf erioed, rhaid inni sicrhau bod pobl yn ein cymoedd yn gallu cael gofal brys pan fydd ei angen arnynt.
bottom of page